Enw’r tyst

Cais

Ymateb

Dr Nadim Haboubi, Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru

Cytunodd Dr Haboubi i roi rhagor o fanylion am nifer y cleifion y mae wedi'u hatgyfeirio at lawdriniaeth fariatrig, a nifer y cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth o ganlyniad i'r atgyfeiriadau hynny.

Mae Dr Haboubi wedi cyfeirio 27 o gleifion, ac allan o'r rhain, dim ond un sydd wedi cael llawdriniaeth, a mae dau bellach yn aros am lawdriniaeth.

Mr Jonathan Barry, Cymdeithas Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Prydain

Cytunodd Mr Barry i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr 11 o restrau llawn o lawdriniaethau y nododd iddynt fynd ar goll yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am beth y mae "11 o restrau llawn o lawdriniaethau" yn ei olygu o ran nifer y cleifion ac fel cyfran o faich gwaith cyffredinol Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru.

Nid oes ymateb wedi cael ei derbyn hyd yma.

Dr Jayne Layzell, Byrddau Iechyd Lleol

Cytunodd Dr Jane Layzell i egluro a oes gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen "Ysgolion Iach" wedi'i gynnal.

 

 

Yn dilyn y cyfarfod, derbynnodd Dr Layzell gwerthusiad annibynnol o'r WNHSS gan gydweithiwr. Mae wedi cael ei gwerthuso yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel rhan o'r Adolygiad Gwella Iechyd, ond yn llai manwl, ac felly nad allai eu hystyried yn annibynnol. Canlyniad yr adolygiad hwnnw oedd y dylai y rhaglen yn parhau i gael eu hariannu, a cael eu cryfhau drwy wella'r gwerthusiad i gynnwys canlyniadau, sy'n ymgorffori’r cwestiynau arolwg Ymddygiadau Iechyd ym mhlant oedran ysgol, a defnyddir ar hyn o bryd er mwyn gymharu ymddygiad iechyd plant yn rhyngwladol.

 

Gellir gweld copi o'r ddogfen yma:http://www.cardiff.ac.uk/socsi/research/publications/workingpapers/paper-138.html

Dr Khesh Sidhu, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Cytunodd Dr Sidhu i roi eglurhad o'r ffigurau NICE a nododd yn ystod y sesiwn mewn perthynas â:

 

- nifer yr unigolion yng Nghymru sy'n gymwys i gael eu hatgyfeirio at wasanaethau bariatrig;

- nifer yr unigolion sy'n gymwys i gael llawdriniaeth fariatrig;

- nifer yr unigolion sy'n debygol o dderbyn llawdriniaeth.

Darparodd Dr Sidhu copi o ddwy dudalen a dynnwyd o'r ‘Adolygiad o Ddarpariaeth Llawdriniaeth Bariatrig a'r Meini Prawf Mynediad yng nghyd-destun y Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan', a ddyfynnir Dr Sidhu'r y ffigurau o.

 

Dr Sidhu provided a copy of two pages extracted from the ‘Review of Bariatric Surgery Provision and Access Criteria in the context of the All Wales Obesity Pathway’, from which Dr Sidhu obtained the figures cited.

 

Mae copi o ddyfyniad y ddogfen yn cynnwys yn y pecyn (HSC(4)-10-14 Papur 9).